HSC(4)-33-12 papur 6
Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) - Ystyriaeth Cyfnod 1
At:
Y Pwyllgor Iechyd a
Gofal Cymdeithasol
Gan:
Y Swyddfa Ddeddfwriaeth
Dyddiad y cyfarfod: 5 Rhagfyr 2012
Diben
2. Ar 13 Tachwedd 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (‘y Pwyllgor’), gan nodi bod angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 8 Mawrth 2013.
3. Ar 3 Rhagfyr 2012, cafodd y Bil a’r Memorandwm Esboniadol eu cyflwyno gan Mick Antoniw AC, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil.
4. Mae papur sy’n amlinellu diben a darpariaethau’r Bil wedi’i ddarparu ar wahân.
5. Rôl y Pwyllgor yng Nghyfnod 1 yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt (Rheol Sefydlog 26.10). Nid oes gofynion penodol yn y Rheolau Sefydlog sy’n rheoli’r modd y bydd y Pwyllgor yn ymgymryd â’r gwaith craffu hwn. Nodir isod ddull gweithredu awgrymedig, ynghyd â fframwaith awgrymedig i lywio gwaith y Pwyllgor.
6. Ar ôl i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad, bydd dadl Cyfnod 1 yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn i benderfynu a yw’r Cynulliad yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Os caiff yr egwyddorion cyffredinol eu derbyn, bydd y Pwyllgor yn ystyried y Bil yn fanwl yng Nghyfnod 2; bydd hyn yn cynnwys gwaredu gwelliannau (ar hyn o bryd, bwriedir cynnal Cyfnod 2 rhwng 21 Mawrth a 10 Mai 2013).
Fframwaith awgrymedig
7. Wrth ystyried ei ddull o graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, awgrymir y dylai’r Pwyllgor weithio o fewn y fframwaith eang a ganlyn:
I’w hystyried:
8. Yn unol â’r terfyn amser a bennwyd gan y Pwyllgor Busnes, bydd angen i’r Pwyllgor gwblhau ei waith o graffu ar y Bil a gosod ei adroddiad ar 8 Mawrth 2013 fan bellaf.
9. Mae’r terfyn amser hwn yn golygu bod yn rhaid ymgymryd â’r gwaith hwn o fewn 10 wythnos fusnes, er ei bod yn debygol y bydd yn rhaid ei gyflawni ar yr un pryd â’r gwaith o graffu ar ddau Fil arall, yn ogystal â gwaith polisi y cytunodd y Pwyllgor arno. Mae amser wedi’i neilltuo yng nghyfarfodydd y Pwyllgor ar 10, 16 a 24 Ionawr 2013 i holi tystion, ac ar 7 a 20 Chwefror i drafod y prif faterion ac adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Bil.
10. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno eisoes ar y dull gweithredu cyffredinol a ganlyn i graffu ar ddeddfwriaeth yng Nghyfnod 1.
§
Cais
cyffredinol am dystiolaeth
Cyhoeddi cais cyffredinol am dystiolaeth, rhoi gwybod
i’r wasg yng Nghymru amdani a’i chyhoeddi ar wefan y
Cynulliad. Mae’r llythyr ymgynghori drafft a rhestr
ddrafft o gwestiynau’r ymgynghoriad wedi’u hatodi yn
Atodiad 1.
§
Cais
am dystiolaeth ysgrifenedig
Gwahodd sefydliadau ac unigolion a ddewiswyd i gyflwyno
tystiolaeth ysgrifenedig. Mae rhestr o ymgyngoreion posibl
wedi’i hatodi yn Atodiad 2.
§
Tystiolaeth lafar
Gwahodd y prif randdeiliaid i roi tystiolaeth lafar mewn
cyfarfodydd yn y dyfodol (gan gynnal yr ymgynghoriad ar yr un
pryd). Mae rhestr dros dro o dystion o’r sectorau perthnasol
wedi’i hatodi yn Atodiad 3. Hefyd, awgrymir y dylid
gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig benodol gan ddau sefydliad, er
nad ystyrir ei bod yn angenrheidiol eu galw i fod yn dystion.
(Gweler Atodiad 4)
§
Allgymorth
O gofio natur y Bil a’r ffaith ei fod yn effeithio yn bennaf
ar gyrff canolog y Llywodraeth a buddiannau preifat penodol, ar yr
achlysur hwn nid argymhellir defnyddio Tîm Allgymorth y
Cynulliad i ymgysylltu â chroestoriad o’r cyhoedd i
ganfod ei farn am y Bil.
11. Mae’r terfyn amser o ran cyflwyno adroddiad yn ei gwneud yn bosibl cael cyfnod ychydig yn hwy na chwe wythnos i gynnal ymgynghoriad, sef rhwng 29 Tachwedd 2012 a 10 Ionawr 2013. Dylai hyn ganiatáu i’r Pwyllgor ystyried a ddylid gwahodd unrhyw dystion ychwanegol i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor yng ngoleuni’r dystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd, er y byddai amser yn brin iawn.
12. Bydd y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gasglwyd yn helpu i lywio gwaith y Pwyllgor o drafod y Bil a’i adroddiad dilynol.
13. Er gwybodaeth, mae’r Rheolau Sefydlog yn galluogi’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i adrodd ar agweddau perthnasol y Bil.
Y rhaglen waith
14. Mae amserlen ar gyfer gwaith craffu’r Pwyllgor yng Nghyfnod 1 wedi’i hatodi yn Atodiad 5.
15. Gwahoddir y Pwyllgor i:
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Health and Social Care Committee
|
|
||
|
|
|
|
|
Bae Caerdydd / Cardiff Bay Caerdydd / Cardiff CF99 1NA
5 Rhagfyr 2012 |
Annwyl Syr/Madam,
Ymgynghoriad ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)
Fel rhan o’i waith o drafod y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) yng Nghyfnod 1, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am dystiolaeth ynghylch egwyddorion cyffredinol y Bil. I gynorthwyo ei waith, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y pwnc hwn.
Beth yw Bil?
Cyfraith ddrafft yw Bil. Ar ôl i’r Cynulliad ystyried a phasio Bil, ac ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, mae’n dod yn ‘Ddeddf y Cynulliad’.
Mae pedwar cyfnod i’r broses o ystyried Bil. Yng Nghyfnod 1, bydd pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil (sy’n cynnwys cymryd tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar gan rai sydd â diddordeb a chan randdeiliaid), a chael cytundeb y Cynulliad i’r egwyddorion cyffredinol hynny.
Beth y mae’r Bil hwn yn gobeithio ei gyflawni?
Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil yn datgan:
“Nod y Bil yw galluogi Gweinidogion Cymru i adennill oddi wrth ddigolledwr (sef person sy’n gwneud taliadau digolledu neu sy’n eu gwneud ar ei ran, i neu ar gyfer dioddefwr clefyd sy’n ymwneud ag asbestos), gostau penodol sy’n dod i ran y GIG yng Nghymru wrth ddarparu gofal a thriniaeth ar gyfer dioddefwr y clefyd sy’n ymwneud ag asbestos.”
Beth yw rôl y Pwyllgor?
Rôl y Pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt. Wrth wneud hyn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i weithio o fewn y fframwaith a ganlyn:
I’w hystyried:
i) yr angen am Fil i alluogi Llywodraeth Cymru, ar ran y GIG yng Nghymru, i adennill costau triniaeth a gofal meddygol a ddarperir i gleifion yng Nghymru sydd wedi datblygu clefyd sy’n ymwneud ag Asbestos (Mesothelioma, placiau plewrol, tewhau plewrol, canser yr ysgyfaint a chlefydau cysylltiedig eraill) ac wedi cael setliad neu ddyfarniad sifil mewn llys neu y tu allan i lys gan gyflogwr neu gorff arall;
ii) a yw’r Bil yn cyflawni’r dibenion a bennwyd iddo;
iii) prif ddarpariaethau’r Bil, ac a ydynt yn briodol i gyflawni ei ddibenion;
iv) goblygiadau ariannol y Bil;
v) unrhyw rwystrau posibl i roi’r prif ddarpariaethau ar waith ac a yw’r Bil yn eu hystyried;
vi) a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil;
vii) barn rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio yn ôl y trefniadau newydd;
viii) a yw’r Bil yn cynnwys cydbwysedd rhesymol rhwng y pwerau ar wyneb y Bil a’r pwerau a roddir drwy Reoliadau.
Gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwiliad
Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo ei waith o graffu ar y Bil. Yn benodol, byddem yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau a restrir yn Atodiad 1.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at PwyllgorIGC@cymru.gov.uk a rhowch y teitl a ganlyn ar yr e-bost “Ymgynghoriad – y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).”
Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Olga Lewis, Dirprwy Glerc
Y Swyddfa Ddeddfwriaeth
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA
Dylai’r dystiolaeth gyrraedd erbyn 10 Ionawr 2013.
Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar
ôl y dyddiad hwn.
Wrth baratoi eich cyflwyniad, cadwch y canlynol mewn cof:
§ dylai eich ymateb gyfeirio at y materion sydd gerbron y Pwyllgor. Gofynnwn ichi roi’r teitl a nodir uchod ar eich tystiolaeth;
§ bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel rheol yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar gael yn gyhoeddus, ac efallai y cânt eu gweld a’u trafod gan Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfodydd pwyllgor. Os nad ydych am i’ch ymateb na’ch enw gael eu cyhoeddi, mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny’n glir wrth gyflwyno’r dystiolaeth;
§ nodwch ai ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad yr ydych; a
§ nodwch a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.
Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd ymatebion gan y rhai a enwyd ar y rhestr atodedig (gweler Atodiad 3). Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe baech yn gallu anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad o bosibl. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Datgelu Gwybodaeth
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich cyfrifoldeb chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Steve George, Clerc y Pwyllgor, drwy ffonio 029 2089 8242, neu Olga Lewis, y Dirprwy Glerc, drwy ffonio 029 2089 8154.
Yn gywir
Mark Drakeford AC
Cadeirydd
Atodiad 1
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cyffredinol
1. A oes angen Bil i’w gwneud yn bosibl adennill costau triniaeth y GIG ar gyfer clefydau sy’n ymwneud ag asbestos yng Nghymru? Esboniwch eich ateb.
2. A ydych yn credu bod y Bil, fel y’i drafftiwyd, yn cyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn y Memorandwm Esboniadol? Esboniwch eich ateb.
3. A yw adrannau’r Bil yn briodol o ran cyflwyno cyfundrefn i’w gwneud yn bosibl adennill costau triniaeth y GIG ar gyfer clefydau sy’n ymwneud ag asbestos yng Nghymru? Os nad ydynt, pa newidiadau y mae angen eu gwneud i’r Bil?
4. Sut y bydd y Bil yn newid yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar hyn o bryd, a pha effaith y bydd newidiadau o’r fath yn ei chael, os o gwbl?
5. Beth yw’r rhwystrau posibl i roi darpariaethau’r Bil ar waith (os ydynt yn bodoli), ac a yw’r Bil yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt?
Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth
6. Beth yw eich barn am y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (hynny yw, offerynau statudol, gan gynnwys rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddiadau)?
Wrth ateb y cwestiwn hwn, mae’n bosibl y byddwch am ystyried Adran 5 o’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys tabl yn crynhoi’r pwerau a fydd yn cael eu dirprwyo i Weinidogion Cymru yn y Bil i wneud gorchmynion a rheoliadau ac yn y blaen.
Goblygiadau ariannol
7. Beth yw eich barn am oblygiadau ariannol y Bil?
Wrth ateb y cwestiwn hwn, mae’n bosibl y byddwch am ystyried Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol), sy’n cynnwys amcangyfrif o’r costau a’r buddion sy’n gysylltiedig â rhoi’r Bil ar waith.
Sylwadau eraill
8. A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am rannau penodol o’r Bil?
Atodiad 2
Rhestr o ymgyngoreion posibl
Awdurdodau Lleol
Cyngor Bwrdeistref SirolBlaenau Gwent
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Caerdydd
Cyngor Sir Gâr
Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy
Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyngor Sir Fynwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Dinas Casnewydd
Cyngor Sir Penfro
Cyngor Sir Powys
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Dinas a Sir Abertawe
Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen
Cyngor Bro Morgannwg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Y Sector Gwirfoddol
Cynghrair Henoed Cymru
Age Cymru
ARC Cymru
Llywodraeth Well i Bobl Hŷn
Diverse Cymru
Contact the Elderly
Gofal Galar Cruse Cymru
Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru
Anabledd Cymru
Grwp Eirioli a Chefnogi Byw'n Annibynnol Gwynedd (ILASGG)
Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru
Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched
Cymdeithas y Cleifion
Fforwm Pensiynwyr Cymru
Rethink
Pensiynwyr Cymru
Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched (Cymru)
Grwpiau Cynghori
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Cyngor Gofal Cymru
Cancer Research UK
Cyngor ar Bopeth Cymru
Cynghrair Pensiynwyr y Gwasanaeth Sifil
Coalition on Charging Cymru
Llais Defnyddwyr Cymru
Diverse Cymru
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
National Voices
Un Llais Cymru
OPAN Ymchwil Heneiddio Cymru
RNIB Cymru
Action on Hearing Loss Cymru
UNSAIN Cymru
Cyngor Cymru i’r Deillion
Cyngor Cymru i Bobl Fyddar
Cyrff Cynrychioliadol
Asbestos Awareness and Support Cymru
Fforwm Grwpiau Cymorth Dioddefwyr Asbestos
Aslef
Cymdeithas Yswirwyr Prydain
Cymdeithas y Cyfreithwyr Anafiadau Personol (Cymru)
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd
BMA Cymru
Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint (Cymru)
Clwb Busnes Caerdydd
Clydeside Action on Asbestos
Cydffederasiwn Diwydiant Prydain
Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (Cymru)
Cydffederasiwn Cynghorau Iechyd Cymuned
Undeb y Brigadau Tân (FBU)
Cyfadran Iechyd y Cyhoedd
Fforwm y Cyfreithwyr Yswiriant
GMB
Sefydliad y Cyfarwyddwyr (Cymru)
Cymdeithas y Cyfreithwyr (Cymru)
Macmillan yng Nghymru
Marie Curie
Mesothelioma UK
Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) Cymru
Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT) Cymru
Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT)
Tenovus
Undeb Adeiladu, Crefftau Perthynol a Thechnegwyr (UCATT)
Unite Cymru
Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) Cymru
Conffederasiwn GIG Cymru
Llywodraeth/Llywodraeth Leol
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Llywodraeth Well i Bobl Hŷn
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Comisiynydd Plant Cymru
Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru
Un Llais Cymru
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Iechyd/Iechyd y Cyhoedd
Cymdeithas Ymarferwyr Cymunedol ac Ymwelwyr Iechyd
Cymdeithas Feddygol Prydain
Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
Prif Weithredwyr Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol yng Nghymru
Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru
Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
Fferylliaeth Gymunedol Cymru
Comisiwn Iechyd Cymru
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Pwyllgorau Meddygol Lleol
Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
Coleg Brenhinol y Nyrsys, Cymru (RCN Cymru)
Coleg Brenhinol y Ffisigwyr
Coleg Brenhinol y Llawfeddygon
Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr
Conffederasiwn GIG Cymru
Bwrdd Cenedlaethol Cymru dros Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd
Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Felindre
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Gwasanaethau Tân
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Atodiad 3
Awgrymiadau ynghylch unigolion/sefydliadau a allai roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor:
Yr Aelod sy’n Gyfrifol:
Y Diwydiant Yswiriant
Cynrychiolwyr Cyflogeion* a Dioddefwyr Asbestos
Tystiolaeth gan banel yn cynnwys:
Cynrychiolwyr Byd Busnes
Tystiolaeth gan banel yn cynnwys:
Gweithwyr proffesiynol ym maes meddygaeth
Tystiolaeth gan banel yn cynnwys:
Gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith
Tystiolaeth gan banel yn cynnwys:
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
*Undebau llafur eraill y gellid eu gwahodd
UNSAIN Cymru
Unite Cymru
Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) Cymru
Undeb Adeiladu, Crefftau Perthynol a Thechnegwyr (UCATT)
Atodiad 4
Sefydliadau y gellid gofyn iddynt ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig benodol i’r Pwyllgor:
Yr Uned Adfer Iawndal (Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU)
Comisiwn y Gyfraith
Atodiad 5
Rhaglen waith ddrafft – dros dro
Dyddiad |
|
5 Rhagfyr 2012 |
11.10 – 12.10: Cyfnod 1 – trafodaeth ar y ffordd o weithio
|
Toriad y Nadolig |
|
10 Ionawr 2013 |
Bore
09.00 – 10.00 Tystiolaeth gan Mick Antoniw AC – Yr Aelod sy’n Gyfrifol 10.00 – 10.15 Trafodaeth ar dystiolaeth yr Aelod sy’n Gyfrifol (preifat) 10.15 – 11.00 Sesiwn Dystiolaeth 1 (Panel) 11.00 – 11.45 Sesiwn Dystiolaeth 2 (Panel)
|
16 Ionawr 2013 |
Bore
09.00 – 10.00 Sesiwn Dystiolaeth 3 (ABI) 10.00 – 10.45 Sesiwn Dystiolaeth 4 (Panel) 10.45 – 12.30 Sesiwn Dystiolaeth 5 (Panel)
|
24 Ionawr 2013 |
Bore
Sesiwn dystiolaeth 6 (Gweinidog) Mick Antoniw AC – yr Aelod sy’n Gyfrifol (60 munud)
|
7 Chwefror 2013
|
Trafodaeth breifat (ar y papur ynghylch y prif faterion) |
Toriad Mis Chwefror |
|
20 Chwefror 2013
|
Trafodaeth breifat ar yr adroddiad drafft
|
27 Chwefror 2013
|
Trafodaeth breifat ar yr adroddiad drafft (os na chytunwyd arno ar 20 Chwefror)
|